Rydym yn asiantaeth ansawdd sy'n arwain y byd gyda phrofiad digymar o ddarparu sicrwydd a gwelliant ansawdd rheoleiddiol a chydweithredol diduedd. Rydym yn cynorthwyo prifysgolion a cholegau i weithio gyda myfyrwyr a dysgwyr, llywodraethau, cyllidwyr a chyrff rheoleiddio i dystiolaethu a gwella ansawdd rhagorol a safonau uchel yr addysg a ddarperir ganddynt.
Rydym yn gweithio tuag at ddealltwriaeth well ar ran y cyhoedd - gartref ac yn rhyngwladol - o sut y dangosir ansawdd rhagorol mewn addysg uwch yn y DU, a sut mae darparwyr hunan-reolus yn sicrhau darpariaeth yr ansawdd honno a mynd i'r afael â gwendidau. Mae ein gwaith yn diogelu gwerth cymwysterau i fyfyrwyr a dysgwyr, yn ogystal â diogelu a hyrwyddo enw da addysg uwch.
Mae'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch yn awyddus i glywed gan fyfyrwyr sydd wedi gwneud cwrs Diploma Mynediad i AU yn ddiweddar ac sydd bellach yn y brifysgol, er mwyn ein helpu i lunio cyfeiriad y Diploma Mynediad i AU yn y dyfodol.
Rydym yn chwilio am aelod sy’n fyfyriwr i ymuno â’n Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio Mynediad (ARLC) i wneud yn siŵr bod buddiannau myfyrwyr yn flaenllaw yn nhrafodaethau ARLC. Rydym yn cydnabod bod myfyrwyr yn gallu dod â'u profiad cyfredol i gyfarfodydd, a gall eu persbectif alluogi QAA i gael effaith gadarnhaol ar fyfyrwyr Diploma Mynediad i AU cyfredol trwy'r penderfyniadau a wneir gan ARLC ynghylch rheoleiddio a datblygu'r cymhwyster. Rydym yn chwilio am fyfyriwr sy'n astudio mewn addysg uwch ar hyn o bryd sydd â diddordeb cryf mewn mynediad i addysg uwch ac sydd, yn ddelfrydol, wedi graddio'n ddiweddar ar gwrs Diploma Mynediad i AU.
Rydym yn gwahodd ceisiadau gan unigolion a fydd yn cefnogi ein gweledigaeth ac yn llysgenhadon cryf ar ran QAA a Mynediad i AU. Rydym yn chwilio am gynrychiolydd myfyrwyr sydd ag angerdd profedig am fynediad i ymuno â'r Pwyllgor, ac yn ddelfrydol rhywun sydd â phrofiad o'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch.
Mae QAA yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o'r gymuned ac yn rhoi gwerth ar amrywioldeb.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cynrychioli myfyrwyr Mynediad i AU ar Bwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio Mynediad QAA ac yr hoffech gael gwybod mwy, ewch i'n gwefan (www.qaa.ac.uk) neu cysylltwch â [email protected] am sgwrs anffurfiol gyda Charlotte neu Ann-Marie am y cyfle.
I wneud cais, cyflwynwch CV a datganiad o ddiddordeb cryno sy'n dangos sut rydych chi'n bodloni manyleb y person erbyn y dyddiad cau, sef 12 Mai 2024. Bydd ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd am gyfweliad yn ystod yr wythnosau sy’n dechrau 15 Gorffennaf 2024. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y broses hon, cysylltwch â [email protected].