Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â sefydliad sydd â rôl hanfodol yn sector addysg drydyddol y DU.
Rydym yn asiantaeth ansawdd sy'n arwain y byd gyda phrofiad digymar o ddarparu sicrwydd a gwelliant ansawdd rheoleiddiol a chydweithredol diduedd. Rydym yn cynorthwyo prifysgolion a cholegau i weithio gyda myfyrwyr a dysgwyr, llywodraethau, cyllidwyr a chyrff rheoleiddio i dystiolaethu a gwella ansawdd rhagorol a safonau uchel yr addysg a ddarperir ganddynt.
Rydym yn gweithio tuag at ddealltwriaeth well ar ran y cyhoedd - gartref ac yn rhyngwladol - o sut y dangosir ansawdd rhagorol mewn addysg uwch yn y DU, a sut mae darparwyr hunan-reolus yn sicrhau darpariaeth yr ansawdd honno a mynd i'r afael â gwendidau. Mae ein gwaith yn diogelu gwerth cymwysterau i fyfyrwyr a dysgwyr, yn ogystal â diogelu a hyrwyddo enw da addysg uwch.
Rydym ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer nifer o unigolion i ymuno â’n Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio Mynediad (ARLC) wrth i’n haelodau presennol ddod i ddiwedd eu cyfnod yn y rôl. Rydym yn chwilio am unigolion sydd â phrofiad o'r sector addysg, yn ddelfrydol â dealltwriaeth o'r cyd-destun polisi sy'n ymwneud ag ehangu cyfranogiad, symudedd cymdeithasol a chymwysterau technegol uwch.
Mae ARLC yn bwyllgor o Fwrdd QAA, ac felly mae'n adrodd ac yn gwneud argymhellion i Fwrdd y Cyfarwyddwyr. Mae gan y Pwyllgor gyfrifoldeb wedi’i ddirprwyo am rai gweithgareddau sy'n ymwneud â’r Cynllun Cydnabyddiaeth Mynediad i Addysg Uwch sy'n llywodraethu'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch. Mae aelodaeth ARLC yn cynnwys ymarferwyr addysg bellach ac uwch cyfredol a rhanddeiliaid eraill. Caiff y Pwyllgor ei gadeirio gan aelod o Fwrdd QAA.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i'n sefydliad wrth i ni groesawu diwygiadau rheoleiddiol sylweddol yn y sector addysg drydyddol. Mae'r newidiadau polisi hyn yn darparu cyfleoedd a heriau ar gyfer y Diploma Mynediad i Addysg Uwch. Gobeithiwn y byddwch yn ystyried ymuno ag ARLC ar yr adeg dyngedfennol a chyffrous hon.
Rydym yn gwahodd ceisiadau gan unigolion a fydd yn ymwneud â'n gweledigaeth ac yn llysgenhadon cryf ar ran QAA a Mynediad i AU. Byddai gennym ddiddordeb arbennig mewn derbyn ceisiadau gan uwch arweinwyr o'r sector addysg bellach sydd ag arbenigedd mewn rheoleiddio a rheoli cymwysterau dilyniant gan gynnwys y Diploma Mynediad i AU.
Mae QAA yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o'r gymuned ac rydym yn rhoi gwerth ar amrywioldeb.
Cewch ragor o wybodaeth am waith QAA mewn Mynediad i AU yn y pecyn recriwtio hwn ac ar ein gwefannau: www.qaa.ac.uk a www.accesstohe.ac.uk.
I gael trafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Rheolwr Mynediad QAA, Charlotte Collard, [email protected].
I wneud cais, cyflwynwch CV a datganiad o ddiddordeb cryno sy'n dangos sut rydych chi'n bodloni manyleb y person erbyn y dyddiad cau, sef 12fed Mai 2024. Bydd ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd am gyfweliad yn ystod yr wythnos yn dechrau 27ain Mai. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y broses hon, cysylltwch â [email protected].